Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.
Mae Barddas, sef y Gymdeithas Gerdd Dafod, yn weithgar iawn yn hybu barddoniaeth a beirdd. Mae hyn yn cynnwys ein gŵyl flynyddol, Gŵyl Gerallt, sy’n denu pobl yn eu cannoedd a’n cyfraniad i arlwy’r Babell Lên yn yr Eisteddfod.
Byddwn yn cyhoeddi Cylchgrawn Barddas bedair gwaith y flwyddyn. Bydd y rhai sy’n tanysgrifio i’r cylchgrawn hefyd yn dod yn aelodau o’r Gymdeithas Gerdd Dafod gan lywio dyfodol Barddas a barddoniaeth Gymraeg.
O dan faner Cyhoeddiadau Barddas, y ni yw prif gyhoeddwr cyfrolau barddoniaeth Gymraeg.
Trwy gynlluniau a phartneriaethau amrywiol byddwn yn hybu beirdd, hyrwyddo eu gwaith a lledaenu barddoniaeth y tu hwnt i’w llwyfannau traddodiadol.