Yn rhifyn 328: Rhifyn Hydref 2015 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 328 | Tymor: Rhifyn Hydref 2015
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Hydref 2015
Awdlau gan Rhys Iorwerth ac Aneirin Karadog a ddaeth yn agos at y brig yng nghystadleuaeth y Gadair ym Meifod.
Barn Frank Olding ar ganu rhydd Eisteddfod Maldwyn.
Barn Annes Glyn ar ganu caeth y Brifwyl.
Holl gynnyrch buddugol cystadlaethau Englyn y Dydd, Tlws Pat Neill, Tlws yr Ysgolion Uwchradd a thlws D. Gwyn Evans.
Ar ôl 30 mlynedd o olygu Cyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol, J. Elwyn Hughes sy’n adrodd gair o brofiad.
Yn y gyfres, ‘Cymru’r Beirdd’, D. Ben Rees sy’n gosod ‘Rhos Helyg’ B.T. Hopkins yn ei chyd-destun.
Siôn Aled sy’n adrodd hanes ymweliad gan ddau o Lwyth y Mohociaid â Chymru.
Colofn arall o drydargerddi Llion Jones.
Colofnau difyr gan Ceri Wyn Jones, Dewi Prysor a Siân Northey.
Cerddi newydd gan Eurig Salisbury, Siôn Aled, Annes Glyn, Tomos Dafydd a Robin Gwyndaf.
Adolygiad o Y Gân Olaf Gerallt Lloyd Owen (gan Emyr Lewis).
Adolygiad o Yn ôl i’r Dref Wen Myrddin ap Dafydd (gan Elis Dafydd).
Beirniadaeth Rhys Dafis ar gystadleuaeth yr englyn – ‘Greddf’.