Yn rhifyn 320: Rhifyn Eisteddfod 2013 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 320 | Tymor: Rhifyn Eisteddfod 2013
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Eisteddfod 2013
Cyfweliadau egsliwsif gyda’r archdderwydd newydd Christine James a’r arch-englynwr Dafydd Wyn Jones o Fro Ddyfi.
Yn y gyfres ‘Cymru’r Beirdd’, mae Dafydd Glyn Jones yn trafod un o gerddi mab enwocaf Dinbych, Twm o’r Nant.
Ail ran portread Gareth Neigwl o’i gyfaill R.S.Thomas.
Llyr Gwyn lewis sy’n tafoli barddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2013.
Yn ei golofn sefydlog, mae Gwyn Thomas yn trafod ‘hen eiriau anghofiedig’ mewn ysgrif sy’n ‘taslo’!
Colofnau difyr gan Dewi Prysor, Siân Northey, Ceri Wyn Jones a Dewi Jones.
A cholofn gyntaf Bardd Plant newydd Cymru, Aneirin Karadog.
Cerddi newydd sbon gan Geraint Løvgreen, Aneirin Karadog, Annes Glyn, Cynan Jones, Eirug Salisbury, Twm Morys a Dai Rees Davies.
Adolygiad o Trwy Ddyddiau Gwydr Siân Northey (gan Meg Elis)
Adolygiad o Bob: Cofiant R. Williams Parry Alan Llwyd (gan Llion Jones)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Gerallt Lloyd Owen.