Yn rhifyn 316: Rhifyn Eisteddfod 2012 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 316 | Tymor: Rhifyn Eisteddfod 2012
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Eisteddfod 2012
Gweithiau buddugol Annes Glyn a Gwynne Wheldon Evans yng nghystadlaethau y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Pantyfedwen.
Cerdd ail-orau cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd gan y disgybl ysgol o Fangor, Steffan Gwynn.
Gwyneth Glyn sy’n rhannu ei phrofiad o fynd o steddfod i steddfod.
Hanes T.J. Morgan ym Mro’r Eisteddfod (gwrandewch ar ei gyfweliad â John Elis Lewis yma)..
Ysgrif gan Iolo Wyn Williams ar Anthem Gymreig Hwngari (gwrandewch ar gyfieithiad Twm Morys yma).
Yn y gyfres ‘Cymru’r Beirdd’, Frank Olding sy’n trafod Coed Glyn Cynon.
Yn ei golofn sefydlog y mae meuryn y Talwrn, Ceri Wyn Jones, yn trafod ‘canu trychineb’.
Colofnau difyr gan Dewi Prysor, Siân Northey, Gwyn Thomas a bardd plant Cymru Eurig Salisbury.
Cerddi newydd sbon gan Aled Jones Williams, Siiân Northey a Mary Scammell.
Teyrngedau i Griffith John Roberts a Mair o Rosyr gan Gwyn Thomas a Dewi Jones.
Adolygiadau o Limrigau Lyfli a Tafodau Symudol Myrddin ap Dafydd (gan Arwel Roberts) a Bro a Bywyd Dic Jones gol. Dai Rees Davies (gan Idris Davies)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Gerallt Lloyd Owen.
Yn y rhifyn hwn hefyd y mae Osian Rhys Jones yn gosod her i’r Gymdeithas Gerdd Dafod.