Yn rhifyn 315: Rhifyn Haf 2012 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 315 | Tymor: Rhifyn Haf 2012
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Blas o Barddas i bawb
Dyma flas o gynnwys y rhifyn am ddim ar y we.
Erthyglau
Maniffesto Osian Rhys Jones: Osian Rhys Jones
Cynnwys Rhifyn Haf 2012
Adroddiad o’r cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin i fwrw cyfrol newydd Aneirn Karadog i’r byd, gan gynnwys hanes talwrn hanesyddol a setlwyd trwy nerth bôn braich.
Ysgrif gan yr Arglwydd Elis Thomas ar ‘Arenig’ Euros Bowen a J.D. Innes.
Yn y gyfres ‘Cymru’r Beirdd’, Robin Chapman sy’n trafod arwyddocâd unig farwnad Williams Pantycelyn i wraig.
Yn ei golofn sefydlog y mae meuryn y Talwrn, Ceri Wyn Jones, yn annerch y cwestiwn ‘Beth yw Bardd?’.
Colofnau difyr gan Dewi Prysor, Emyr Lewis, Siân Northey, Gwyn Thomas, Dewi Jones a bardd plant Cymru Eurig Salisbury.
Cerddi newydd sbon gan Rhys Iorwerth, Karen Owen, Tudur Hallam, Hilma Lloyd Edwards ac Arwyn Groe ymhlith eraill.
Teyrngedau i’r Prifardd Emrys Roberts a’r englynwr toreithiog RJ Penmorfa.
Yng ngongol yr ysgolion, Twm Morys a Tudur Dylan sy’n trafod soned adnabyddus T.H. Parry-Williams ‘Ty’r Ysgol’.
Adolygiadau o Cerbyd Cydwybod Geraint Jarman (gan Robin Llywelyn) a John Morris-Jones Allan James (gan Richard Glyn Roberts)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Gerallt Lloyd Owen, manylion am dair cystadleuaeth newydd a llawer llawer mwy…