Yn rhifyn 314: Rhifyn Gwanwyn 2012 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 314 | Tymor: Rhifyn Gwanwyn 2012
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Gwanwyn 2012
Cyfweliad gyda Geraint Jarman ar drothwy cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth ers 1976, Cerbyd Cydwybod, ynghyd â chwech o gerddi newydd o’i eiddo.
Yn y gyntaf mewn cyfres newydd o ysgrifau ar ‘Gymru’r Beirdd’, Dafydd Iwan sy’n trafod dwy gerdd gan Gwenallt a fu’n ysbrydoliaeth i ymgyrchwyr y chwedegau.
Yn ei golofn sefydlog y mae’r meuryn newydd, Ceri Wyn Jones, yn trafod ei brofiad wrth ymgymryd â’r “barchus, arswydus swydd”.
Colofnau newydd sbon gan Dewi Prysor, Emyr Lewis a bardd plant Cymru Eurig Salisbury.
Cerddi newydd sbon gan Gwyn Thomas, Dafydd John Pritchard a Hywel Griffiths ymhlith eraill.
Teyrngedau i Ithel Rowlands – bardd a gyrrwr trên.
Yng ngongol yr ysgolion, Siôn Aled sy’n trafod cerdd olaf Gwenallt ‘Y Coed’.
Adolygiadau o Waliau’n Canu (gan Cynan Jones), Cerddi Storïol (gan Siân Northey) ac O Annwn i Geltia (gan Myrddin ap Dafydd).
Manylion am gystadleuaeth newydd i’w beirniadu gan Gerallt Lloyd Owen a llawer llawer mwy…