Partneriaeth arloesol rhwng Barddas a BBC Cymru yw cynllun Bardd y Mis sy’n rhoi llwyfan i feirdd er 2014.
Bydd Bardd y Mis yn cael llwyfan newydd ar donfeddi BBC Cymru, gan hefyd gyfoethogi rhaglenni’r BBC.
Gall fod y bardd yn datblygu ei thema eu hunain neu ymateb i sgyrsiau, straeon, caneuon neu raglenni cyfan a glywyd ar yr orsaf. Mae’r cerddi yn cael eu cyhoeddi ar wefan BBC Cymru ar ffurf sain, fideo a thestun.
Pwy all anghofio Llion Jones yn manteisio ar gyfle i sgriptio pennod o Bron Meirion?, neu Gruffudd Antur yn awgrymu fod “rhywbeth rhwng Geth a Ger”. Ym mis Medi 2017 bu Casia William yn cyd-gyfansoddi cân gyda Ynyr Roberts.
Bardd y Mis Radio Cymru Tachwedd 2024
Cerddi
Haf o Hyd: Aron Pritchard