Mae Hel Llus yn y Glaw, cyfrol gyntaf Gruffudd Owen o gerddi wedi cyrraedd rhestr fer y categori barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.
Cyfrol yn llawn deuoliaethau yw Hel Llus yn y Glaw, cyfrol sy’n trafod agweddau ar hunaniaeth a pherthyn o safbwynt y bardd sy’n byw yn y brifddinas ond yn hannu o Ben Llŷn. Cawn gip ynddi hefyd ar Gruffudd Owen y talyrnwr a’r stompiwr, ac ar gerddi direidus sy’n llawn o droeon trwstan y beiciwr yn y ‘ddinas ddu’.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i gyfrol gan fardd ifanc yn nghyfres Cyhoeddiadau Barddas, ‘Tonfedd Heddiw’, ddod i’r amlwg yn y gystadleuaeth hon. Y llynedd, gosodwyd cyfrol gyntaf Llyr Gwyn Lewis, Storm ar Wyneb yr Haul ar y rhestr fer hefyd.
Mae Hel Llus yn y Glaw, fel yr awgryma’r teitl, yn dwyn ynghyd brofiadau gwerthfawr bywyd ac yn dal gafael ar y fagwraeth arbennig a gafodd y bardd ym Mhen Llyn.
Llongyfarchiadau calonnog i Gruffudd.