Fel tanysgrifwyr o gylchgrawn Barddas ac aelodau o’r Gymdeithas Gerdd Dafod hoffwn eich sicrhau ein bod yn gwneud gymaint ag y gallwn i gynnal elfen o normalrwydd drwy’r argyfwng Covid-19, gan wybod fod y cylchgrawn, ein cyhoeddiadau a’n gweithgarwch barddol yn cynnig diddanwch, cysur a chynhaliaeth ddiwylliannol i nifer ohonoch.
Cylchgrawn Barddas
Oherwydd y sefyllfa, does dim modd inni argraffu copi papur o Barddas y tro hwn. Ond dymunwn barhau i gyhoeddi’r cylchgrawn er eich budd. Ar fodel Barddas Bach y Dolig, sef rhifyn digidol a ddanfonir ar e-bost i’n haelodau bob Nadolig ac a gyhoeddir ar ein gwefan, fe fydd copi digidol o gylchgrawn Barddas, rhifyn y Gwanwyn, yn barod erbyn 20 Ebrill ac yn cael ei e-bostio atoch.
Bydd hefyd fersiwn PDF (sef fersiwn digidol, di-bapur) yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan ac felly os nad oes gennych gyfrif e-bost, ond bod modd i chi gael mynediad i sgrin gyfrifiadurol, tabled neu ffôn clyfar, gellir darllen y rhifyn diweddaraf ar y wefan.
Os bydd y post yn cau, byddwn yn canfod ffyrdd eraill, e-bost neu ffôn, i’ch diweddaru chi. Cawn weld beth fydd hanes rhifynnau’r haf a’r hydref. Ar fater y tanysgrifiad rydym yn edrych ar ddiwallu’r golled o beidio derbyn copi papur y tro hwn, naill ai drwy gynhyrchu copi papur ychwanegol yn ddiweddarach yn y flwyddyn neu drwy archwilio trywyddau posib eraill. Ond fe’ch sicrhawn na fyddwch ar eich colled yn sgil y newid sydyn i’n trefn arferol o weithio. Bydd ein cydlynydd, Ffion, yn fwy na bodlon trafod y sefyllfa gyda chi dros y ffôn. Mae ei manylion cyswllt mewn rhifynau blaenorol o’r cylchgrawn a hefyd ar ein gwefan.
Cysylltu
Os nad ydych wedi bod yn derbyn Barddas Bach y Dolig, y ddau Nadolig diwethaf, golyga nad yw eich e-bost gennym. A gaf i ofyn yn garedig i chi felly, gysylltu â Ffion Medi Lewis-Hughes, cydlynydd Barddas, er mwyn darparu eich e-bost iddi. Gall hyn ein galluogi i gyrraedd mwy ohonoch yn y dyfodol gydag unrhyw newyddion neu ddiweddariad, ac wrth gwrs er mwyn derbyn Barddas Bach y Dolig ar ddiwedd y flwyddyn hon. At y perwyl hwn bydd Ffion yn falch o glywed gennych.
Ffion Medi Lewis-Hughes
Cydlynydd Barddas
Noddfa
Pentre Isaf
Tregaron
Ceredigion
SY25 6ND
Cyhoeddiadau Barddas
Mae cyfrolau Cyhoeddiadau Barddas hefyd yn wynebu heriau na fu modd eu rhagweld. Er enghraifft, mae pentwr o gopïau newydd sbon danlli o Llyfr Gwyrdd Ystwyth gan Eurig Salisbury yn eistedd yn warws yr argraffwyr y funud hon gan ei bod hi’n amhosib eu dosbarthu i’r siopau ar hyn o bryd.
Cyhoeddir dwy gyfrol arall yn fuan iawn hefyd, sef Dal i Fod gan Elin ap Hywel a Desg Lydan gan Geraint Roberts, ac maent yn barod i’w rhannu â’r byd pan fydd yr argraffwyr a’r system ddosbarthu yn ailgychwyn. Gellir, serch hynny, gysylltu a’ch siop lyfrau leol er mwyn rhagarchebu’r cyfrolau hyn fel eich bod yn eu derbyn yn syth pan fydd posib eu dosbarthu.
Mae gennym hefyd sawl cyfrol ddifyr a chyffrous ar y gweill a byddwn yn parhau i’w cyhoeddi yn ystod misoedd yr haf, os oes modd gwneud hynny.
Ar ran holl swyddogion, staff a phwyllgor gwaith Barddas, hoffwn ddymuno’r gorau i chi, gan ddanfon ein cofion cynhesaf atoch dros y cyfnod dyrys hwn.
Aneirin Karadog,
Cadeirydd Barddas (Y Gymdeithas Gerdd Dafod).