Mae’n bleser gan Barddas gyhoeddi fod Alaw Mai Edwards wedi ei phenodi’n Olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas.
Mae Alaw yn ymuno â Barddas wedi cyfnod o fod yn gweithio yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru lle bu’n rhan o brosiectau Barddoniaeth Guto’r Glyn a Chwlt y Seintiau yng Nghymru. Fel cymrawd ymchwil yn y Ganolfan yn Aberystwyth, mae gan Alaw brofiad sylweddol o gyhoeddi a pharatoi testunau ar gyfer eu cyhoeddi.
Dengys y diddordeb cynyddol mewn barddoniaeth ymysg plant a phobl ifanc yn ystod y blynyddoedd diwethaf mor bwysig yw addysgu’r genhedlaeth nesaf am farddoniaeth o bob math, a theimlaf yn gryf iawn fod angen dangos sut y gellir gwneud barddoniaeth yn berthnasol i’r oes sydd ohoni. Credaf ei bod hi’n bwysig i glymu barddoniaeth â meysydd eraill i ehangu’r gynulleidfa y tu hwnt i ddarllenwyr barddoniaeth yn unig
Alaw Mai Edwards
Mae Alaw, sy’n byw yng Ngwernbraichdwr, Maerdy, Corwen yn edrych ymlaen at adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan Elena Gruffudd yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf tra’n Olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas. Wrth ddiolch i Elena am ei gwaith di-flino, dywedodd Cadeirydd Barddas, Y Prifardd Aneirin Karadog, ei fod e a gweddill aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol. Ychwanegodd Aneirin ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at bennod newydd yn hanes Cyhoeddiadau Barddas, o dan olygyddiaeth Alaw.
Bydd Alaw Mai Edwards yn ymuno â Barddas yn swyddogol, ddydd Llun 26 Chwefror.