Eleni bydd y bardd ifanc o Gasnewydd, Kayley Sydenham, yn derbyn nawdd gan Gronfa Gerallt gan Barddas i fynychu cwrs cynganeddu yng Nghanolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Tŷ Newydd.
Newyddion y Gymdeithas Gerdd Dafod
Cydlynydd Newydd ein Hawen: Alaw Griffiths
Mae’n bleser gan Barddas gyhoeddi taw Alaw Griffiths yw Cydlynydd newydd y Gymdeithas Gerdd Dafod. Yn enedigol o Sir Fflint, mae Alaw bellach wedi ymgartrefu yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth gyda’i gŵr Hywel, eu plant Lleucu a Morgan, a’u ci bach Sami. Ers pymtheg mlynedd mae Alaw wedi gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru, gan …
Beirdd Bach cyhoeddi i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn cael ei thrwytho mewn odlau, mydryddiaeth a sŵn y gynghanedd
Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi bod Cyhoeddiadau Barddas yn ymrwymo i gyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc o fis Medi 2020 ymlaen dan yr enw Beirdd Bach. Y bwriad yw cyhoeddi casgliadau o gerddi hen a newydd, cyfrolau addysgiadol a fydd o gymorth i ddehongli barddoniaeth, llyfrau stori a llun am feirdd a llenorion …
Neges gan y Cadeirydd yn ystod yr argyfwng Covid-19
Neges gan Aneirin Karadog i’ch sicrhau ein bod yn gwneud gymaint ag y gallwn i gynnal elfen o normalrwydd drwy’r argyfwng Covid-19, gan wybod fod y cylchgrawn, ein cyhoeddiadau a’n gweithgarwch barddol yn cynnig diddanwch, cysur a chynhaliaeth ddiwylliannol i nifer ohonoch.
Neges gan y Cadeirydd yn ystod yr argyfwng Covid-19Gweld mwy
Cydraddoldeb mewn cerdd dafod
Dyma ymateb Pwyllgor Gwaith Barddas i Lythyr Iestyn Tyne am ddiffyg cynrychiolaeth menywod yng Nghylchgrawn Barddas.
Dau fardd yn derbyn nawdd gan gronfa er cof am Gerallt
Bydd dau fardd ifanc yn derbyn nawdd gan Gronfa Gerallt eleni i fynychu Cwrs Cynganeddu preswyl Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Dau fardd yn derbyn nawdd gan gronfa er cof am GeralltGweld mwy
Penodi Cydlynydd Newydd Barddas
Mae’n bleser gan Barddas gyhoeddi fod Ffion Medi Lewis-Hughes wedi’i phenodi’n Gydlynydd Barddas.
Alaw newydd Barddas
Mae’n bleser gan Barddas gyhoeddi fod Alaw Mai Edwards wedi ei phenodi’n Olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas.
O Hel Llus i hel gwobrau
Mae Hel Llus yn y Glaw, cyfrol gyntaf Gruffudd Owen o gerddi wedi cyrraedd rhestr fer y categori barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.
Hetty Bechler, aelod hynaf Barddas yn 100 oed!
“Sa’i’n credu ’mod i’n gant oed,” meddai. “Mae’n hala fi i werthin! Ond wi’n darllen Barddas o glawr i glawr, a wi’n dysgu rhywbeth bob tro. Fe allwn i farw’n hapus pe bawn yn gallu gwneud englyn cywir! Fe wnes i linell pwy noson pan own i wedi blino’n lân: ‘af yn araf i orwedd!’”. …
John Glyn Jones
Gofid o’r mwyaf i holl aelodau’r Gymdeithas Gerdd Dafod oedd clywed y newyddion trist am farwolaeth annhymig John Glyn Jones, trysorydd di-flino’r Gymdeithas ac un o wir gymwynaswyr y Gymraeg.
Gwobr Cyfraniad Oes i Dafydd Islwyn
Dafydd Islwyn, ysgrifennydd y Gymdeithas Gerdd Dafod, yn derbyn Gwobr Cyfraniad Oes Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.