Mae’r Prifardd Myrddin ap Dafydd yn awdur toreithiog i blant ac oedolion, ac yn storïwr heb ei ail. Dyma, o bosib, y stori bwysicaf iddo ei hadrodd hyd yma.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 10.95
Disgrifiad
Ble mae’r Dref Wen? Ble mae Pengwern? Ble mae Rhodwydd Forlas? Wrth i’r awdur ddilyn trywydd Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen yn ôl i galon yr Hen Bowys, down i werthfawrogi apêl yr hen englynion a’r chwedlau hyn o’r newydd, a dod i ddeall pam mae eu dylanwad mor gryf ar ein canu o hyd.
‘… dyma Rodwydd Forlas i mi… Yma y safodd Llywarch Hen 1,400 o flynyddoedd yn ôl, efallai, a Gwên ap Llywarch ar ei ôl, mae’n debyg. Yma’r oedd ffin eu tiriogaeth ar y pryd yn ôl yr englynion: “Fe gadwaf wyliadwriaeth ar Rodwydd Forlas,” meddai Llywarch. Yn yr union fan hon y mae ffin Cymru a Lloegr heddiw.’ (Myrddin ap Dafydd)