Yn y gyfrol hon, mae Dafydd John Pritchard yn dod at y Lôn Fain a fu’n gymaint rhan o’i blentyndod.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Ar Lôn Fain arall, ddychmygol, daw wyneb yn wyneb â bywyd lle mae’n cyfarfod â phobl, yn ymgodymu â chwestiynau ffydd, yn chwerthin a chrio, dathlu a galaru ac yn anfon ambell gerdyn post o lefydd pell. Tyllog, bellach, yw’r Lôn Fain go iawn, ac anodd, ar brydiau, yw’r daith hyd Lôn Fain y dychymyg. Ond y daith ei hun sy’n bwysig, a’r daith honno sy’n rhoi bodolaeth a lliw i’r cerddi.
O Nant Peris y daw Dafydd Pritchard yn wreiddiol ond y mae wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, ac yn benodol yn Llanbadarn Fawr, ers blynyddoedd bellach. Ef yw Rheolwr Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.