Disgrifiad
Dysgodd John Glyn y cynganeddion yn nosbarth nos y Prifardd Gwilym R. Jones yn y 1970au. Mae’n aelod o dîm Talwrn Dinbych ers 1979 ac yn cynnal dosbarthiadau ar y cynganeddion yn yr ardal ers dros ugain mlynedd. Mae’n briod â Helen ac mae ganddynt dri o blant.
Dyma gasgliad cyntaf John Glyn Jones o gerddi, sef englynion a chywyddau byr yn bennaf, ar bynciau amrywiol. Fel yr awgryma’r teitl mae yma gymysgedd o’r dwys a’r doniol gyda hiwmor sych yr awdur yn amlwg yn rhai o’r englynion. Mae John Glyn yn ei ystyried ei hun yn fwy o gynganeddwr nag o fardd, gan gredu’n gryf bod lle i gerddi syml a dealladwy ar y darlleniad cyntaf yn ein llenyddiaeth. Ei obaith yw y bydd y gyfrol hon yn apelio at ddarllenwyr cyffredin o bob oedran.