Dyma gyfrol gyntaf o gerddi gan Llion Pryderi Roberts. Prif thema’r gyfrol yw’r cof a threigl amser, ac mae’r cerddi i gyd yn ymddangos o fewn strwythur pedair awr ar hugain.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Adolygiadau
‘Rhaff achub atgofion…’: Dewi AlterDisgrifiad
Lluniwyd y gyfrol fel bod modd annog y gynulleidfa i ddarllen y gwaith fel naratif estynedig, o glawr i glawr, yn debycach i nofel neu hunangofiant. Trwy ddefnyddio patrwm y cloc a chynnwys tair cerdd ym mhob awr, mae Llion yn archwilio ein perthynas hanfodol gydag amser. Cyffyrddir â phynciau fel galar a hiraeth, y presennol a’r gorffennol, gyda rhai o’r cerddi’n deillio o brofiadau gwrioneddol ac eraill yn gwbl ffuglennol. Ysbrydolwyd y bardd hefyd gan gelfyddyd o bob math, yn arbennig cerddoriaeth a gwaith celf.
“Trafod profiadau bywyd ydw i,” meddai’r bardd o Fôn, ond sy’n byw bellach yn Nelson ac yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
“Rwy’n ceisio deall rhagor ar y berthynas gymhleth rhwng amser, profiad a chofio, a herio’r berthynas honno yn ogystal. Rydym i gyd yn gaeth i amser, neu’r syniad swyddogol o amser, ond mewn gwironedd, mae amser yn bodoli y tu hwnt i gaethiwed y cloc.”
Yn Tipiadau, mae Llion yn ymdrin â phrofiadau personol o golli ei fam pan roedd yn ei arddegau, i fod yn ?r a thad. Cynhwysir amrywiaeth bywiog o ffurfiau barddonol, yn cynnwys cerddi vers libre, cerddi mydr ac odl megis y soned a’r filanel, vers libre cynganeddol a chywyddau byrion.