Dyma gyflwyniad gwych i’r ddrama fer i ddarpar-ddramodwyr a rhai sy’n astudio drama fel pwnc.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6.95
Disgrifiad
Yn y drydedd gyfrol yn y gyfres hon mae’r dramodydd a’r beirniad Emyr Edwards yn edrych ar amrywiol agweddau ar y ddrama fer trwy gyfrwng gweithiau dramodwyr amlwg megis John Gwilym Jones, Wil Sam, Meic Povey ac Aled Jones Williams.
Gan dynnu ar flynyddoedd o brofiad ym myd y ddrama yng Nghymru, ac fel awdur nifer helaeth o gyfrolau yn ymwneud â’r ddrama a’r theatr, mae Emyr Edwards yn cynnig yma drosolwg gwerthfawr o draddodiad a chefndir y ddrama fer, ei chrefft a’r dull o’i llwyfannu yn y theatr.