Dyma argraffiad newydd o’r gyfrol ddwyieithog boblogaidd gan Alan Llwyd, sy'n awdurdod ar fywyd a barddoniaeth Hedd Wyn.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Disgrifiad
Mae stori arwrol Hedd Wyn, Bardd Cadair Ddu Birkenhead, 1917, yn un o fythau mwyaf pwerus Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Enillodd Hedd Wyn gadair Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead bum wythnos ar ôl iddo gwympo yn y Rhyfel Mawr.
Fel y dywed Alan Llwyd yn y gyfrol hon: “Hanes buddugoliaeth un dyn yn wyneb trasiedi enbyd yw stori Cadair Ddu Birkenhead, a hanes un dyn yn gorchfygu rhyfel ei hun”.