Mae’r gyfrol newydd Rhywbeth I’w Ddweud yn llwyfan i amrywiaeth o gyfranwyr bwyso a mesur grym y geiriau gan edrych hefyd ar pa mor greiddiol fu gwleidyddiaeth i’r sîn roc Gymraeg dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf ac i ba raddau mae’r caneuon hyn wedi herio agweddau’r cyfnod.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Disgrifiad
Mae’r gyfrol newydd Rhywbeth I’w Ddweud yn llwyfan i amrywiaeth o gyfranwyr bwyso a mesur grym y geiriau gan edrych hefyd ar pa mor greiddiol fu gwleidyddiaeth i’r sîn roc Gymraeg dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf ac i ba raddau mae’r caneuon hyn wedi herio agweddau’r cyfnod.
Yn eu cyflwyniad, esbonia’r golygyddion Marged Tudur ac Elis Dafydd fod croesdoriad eang o ganeuon, o’r eiconig i’r rhai mwyaf anghyfarwydd, yn y casgliad hwn. Ac mae diffinio cân wleidyddol yn destun trafodaeth ynddi ei hun. Mae yna ddewisiadau amlwg, fel Gwesty Cymru, Geraint Jarman, Gwlad ar Fy Nghefn, Datblygu, ac Yma O Hyd, Dafydd Iwan, ac yna Cyn i’r Lle ‘Ma Gau, gan y Bandana, cân nad yw’n amlwg yn un wleidyddol, ond fel cân wleidyddol y gwelodd Nici Beech hi. Mae dewis Dylan Meirion Roberts / Dyl Mei, sef Talu Bils, Rodney Evans yn profi nad cenedlaetholdeb a’r Gymraeg yw unig destun ein cyfansoddwyr gwleidyddol.
Meddai Marged Tudur ac Elis Dafydd yn eu cyflwyniad:
“Mae’r geiriau‘r caneuon a ddewisiwyd ar gyfer y gyfrol hon yn sicr wedi cyffwrdd â nerf ein cyfranwyr….A dechrau’r drafodaeth yw’r gyfrol hon, nid ei diwedd… Mae angen y drafodaeth er mwyn pwysleisio pwysigrwydd caneuon gwleidyddol fel bod yna awydd ymysg ein cantorion a’n cyfansoddwyr i ysgrifennu caneuon newydd ar adeg pan mae angen inni fynegi’n hunain yn wleidyddol yn fwy nag erioed o’r blaen.”
Ochr yn ochr â phob erthygl, mae geiriau’r gân a drafodir. Dyma restr o’r caneuon dan sylw ac enwau’r awduron sy’n eu trafod:
Gwesty Cymru, Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr – Marged Tudur
“Dyma gân sy’n rhoi peltan a gwers wleidyddol bwysig i ni heddiw, fel ag y gwnaeth yn 1979. Dameg o gân yw hi – dameg Gwesty Cymru”.
Tân yn Llyn, Plethyn – Ifor ap Glyn
“Tân symbolaidd yw tân Ann Fychan, nid anogaeth i losgi tai”.
Yma o Hyd, Dafydd Iwan ac Ar Log – Pwyll ap Siôn
“Bu canu protest y 60au a’r 70au yn rhy barod i edrych yn ôl, ac i ymddiheuro a dweud ‘sori ein bod ni yma’. Neges ‘Yma O Hyd’ yw ein bod ni’n gwrthod ymddiheuro”.
Cocaine, Steve Eaves a’i Driawd – Elis Dafydd
“Mae hi’n mynd i’r afael â holl gymlethdodau meddu ar safbwynt gwleidyddol sy’n mynd yn erbyn y status quo”.
Gwlad ar fy Nghefn, Datblygu – Griff Lynch
“Mae hon yn fwy o gri am chwyldro, yn waedd am anhrefn, gan wfftio diflastod y sefydliad Cymraeg”.
Cymru, Lloegr a Llanrwst, Y Cyrff – Hefin Jones
“Ar un wedd, gellir diolch i Weinyddiaeth Amddiffyn Lloegr am ddefnyddio Cymru fel eu maes chwarae, gan na fyddai’r gân wefreddiol hon yn bodoli fel arall”.
Gwyddbwyll, Tystion – Aneirin Karadog
“.. riff sy’n nadreddu drwy’r clustiau a churiadau sy’n ddigon cadarn fel y gellid haeru eu bod wedi eu gwneud o haearn Sbaen, ynghlwm wrth fynegiant gwreiddiol nas clywyd o’r blaen yn Gymraeg”.
Gwreiddiau Dwfn, Super Furry Animals – Casi Wyn
“Ar adegau, mae’r rhythmau a’r symudiad melodaidd yn llusgo fel pe bai’n drosiad cerddorol i gyfleu’r ‘baich’ honedig o gario baner diwylliant Cymraeg gyda chi bob amser”.
Talu Bils, Rodney Evans – Dylan Meirion Roberts
“Rydan ni’n cael mwy o wirionedd am fyw heddiw ac am y byd sydd ohoni mewn un gân a recordiwyd mewn parti, nag rydan ni’n ei gael gan y cyfryngau”
Cyn i’r Lle ‘Ma Gau, Y Bandana – Nici Beech
“..dwi’n ei gosod yn un o ganeuon mwyaf anthemig, cadarnhaol ac eangfrydig ei chyfnod”.