Cyfrol ddiweddaraf y bardd toreithiog Gwyn Thomas yn cynnwys cerddi amrywiol sy'n cynnig golwg unigryw'r bardd ar amryfal faterion yn ymwneud â bywyd yn ei ddwyster a'i lawenydd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Mae cyfrol ddiweddaraf y bardd toreithiog Gwyn Thomas yn mynd i’r afael â chwestiynau amrywiol bywyd, o ystyried ‘Gramadeg Bodolaeth’ i fyfyrio ar ddirgelion y ‘Peiriant-Llyncu-Sana’.
Cyfrol yw hon sy’n crisialu themâu mawr bywyd trwy sylwi ar y pethau bychain, cyfrol sy’n ddigyfaddawd o ran neges y bardd – ei gwestiynu, ei ddirmygu, ei ddoethinebu. Ond cyfrol sydd hefyd yn agos atoch, o ran anwyldeb y berthynas â’i wyrion, a’i sylwadau smala.
Yn ei ffordd ddihafal ei hun mae’r bardd yn rhoi yn y glorian wahanol fanion ein byw a’n bod gan ddathlu, yn nyfod cenhedlaeth newydd, “… fod tywyllwch yn dal i gael ei dorri gan rym disglair y goleuni”.