Mae Pum Plwy’ Penllyn – Llanycil, Llanfor, Llandderfel, Llangywer a Llanuwchllyn – yn enwog am eu cyfoeth diwylliannol.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Disgrifiad
Hon yw ardal y Pethe ac un o gadarnleoedd yr iaith lle mae’r Gymraeg yn parhau’n wydn ac yn gyfrwng naturiol ar gyfer ei diwylliant.
Yn y gyfrol hon mae rhai o lenorion amlycaf Cymru, mewn ysgrif a cherdd, yn bwrw golwg ar un agwedd ganolog ac annatod ar y diwylliant hwnnw, sef beirdd a barddoniaeth Pum Plwy’ Penllyn, ac yn trin a thrafod a dathlu traddodiad sy’n pontio mileniwm a hanner, o ddyddiau Llywarch Hen hyd y dydd hwn.