Casgliad cyntaf o gerddi Llion Elis Jones, Prifardd Cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol 2000. Ceir yma olwg ar fyd a bywyd Cymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6
Disgrifiad
Pethau achlysurol yw cerddi Llion Jones. Ond fel y gwelir yn y casgliad cyntaf hwn ohonynt, y mae’r bardd yn gyson iawn yn y modd y mae’n eu defnyddio i archwilio natur y byd o’i gwmpas: Byd y Pethe Achlysurol neu’r diwylliant byrhoedlog, lle mae newyddion yn sebon a sebon yn newyddion, lle mae’r defnyddiwr yn cael ei ddefnyddio, lle mae delwedd a delweddau yn teyrnasu.
Dyma gyfrol sy’n cynnig golwg dreiddgar ar fywyd ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain gan un sy’n ymwybodol iawn o’r bydoedd gwahanol y magwyd ef rhyngddynt.