Ceir yn Nawr gerddi sy'n arddangos holl fedrau a holl rychwant barddonol T. James Jones: cerddi cynganeddol traddodiadol ac arbrofol ynghyd â cherddi gogleisiol o 'rydd'. Dyma ganu T. James Jones ar ei rymusaf.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6
Disgrifiad
Aeth chwe blynedd heibio ers i T. James Jones gyhoeddi Diwrnod i’r Brenin, a bu’r cyfnod yn gyfnod o golli sawl aelod o’i deulu, y ceir marwnadau dwys ac ysgytiol iddynt yn y gyfrol newydd hon. Ceir hefyd gerddi sy’n dathlu cyfnod o enillion: ei briodas â Manon, priodasau eu plant, a geni tri o wyrion. Dethlir, yn ogystal, gyfnod cyffrous wrth i Gymru adennill peth o’i hunan-barch yn sgil cychwyniad ei Senedd. Mae Nawr yn gyfrol sy’n galaru ac yn gorfoleddu ar yr un pryd.