Yn y casgliad hwn o gerddi gan Gwyn Thomas, ac yntau bellach yn daid, y mae’r bardd yn ymwybodol iawn o ‘olwyn bodolaeth’.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6.95
Disgrifiad
Thema amlwg iawn yn y gyfrol hon yw treigl amser, a’r ffaith ein bod ni, fel y dywed mewn cerdd arall, ‘Wedi ein rhaglennu, ryw ben, / I beidio â bod yma’. Er bod yma filwrio yn erbyn amser, y mae yma hefyd ildio yn raslon i deyrnasiad amser, i symud o’r naill du a rhoi ffordd i genedlaethau newydd, ac yn enwedig i wyrion.
Yng nghanol ‘murmuron tragwyddoldeb’ y mae yna s?n a chwerthin plant, ac wrth i olwyn bodolaeth droi, y mae’r bardd yn dod yn gyfarwydd â Sam Tân, pywyr rênjyrs swnllyd, ac ambell ddafad swrrealaidd sy’n bwyta cig. Ac yng nghanol y dwys, y doniol a’r direidus, fe geir cryn dipyn o ddychan crafog am ein byd cyfoes, ein ‘cwningod tjioclet’, a’n hen, hen ddrygioni.