Cyfieithiad o un o glasuron y dramodydd Euripides (480CC - 406CC) yw Medeia. Mae'r drasiesi Roegaidd hon yn rhan o fanyleb UG Drama CBAC am y pum mlynedd nesaf.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6.95
Disgrifiad
Cafodd y cyfieithiad hwn o waith y bardd a’r llenor Gwyneth Lewis ei gomisiynu ar y cyd gan CBAC a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae Gwyneth Lewis yn cael ei hystyried fel un o’n prif lenorion. Yn ogystal â chyhoeddi tair cyfrol o gerddi yn Gymraeg, y mae hi hefyd wedi cyhoeddi’n helaeth yn Saesneg ac mae ei chyhoeddiadau yn y ddwy iaith wedi ennill gwobrau. Medeia yw’r drydedd ddrama i Gwyneth ei chyfieithu. Eisoes cyhoeddwyd Clytemnestra (Sherman Cymru) ac Y Storm (Cyhoeddiadau Barddas) yn 2012.