Llyfr Gwyn yw’r ail mewn cyfres o hunangofiannau llenyddol a fydd yn gyfrwng i’n prif lenorion drafod eu bywyd a’r dylanwadau ar eu gwaith.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 12.95
Disgrifiad
Pryd gychwynnodd diddordeb mab Ty Capel Carmel, Tanygrisiau mewn ysbrydion? Sut y daeth mythau a symbolau mor greiddiol i’w waith fel bardd ac awdur rhyddiaith, a sut y bu i ffilmiau cowbois bore oes esgor ar ei gyfraniad arloesol ym maes ‘llunyddiaeth’? Mae’r gyfrol hon yn sôn am ddylanwad magwraeth Gwyn Thomas yn ardal Blaenau Ffestiniog yn ogystal â dylanwad llu o ddiddordebau o bedwar ban byd.
Ganwyd Gwyn Thomas yn Nhanygrisiau, a magwyd ef yno ac ym Mlaenau Ffestiniog. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog, ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yn 1963 penodwyd ef ar staff Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, lle y bu nes iddo ymddeol yn 2000. Bu’n ddarlithydd, athro, a phennaeth yr adran honno. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o gerddi, gweithiau ym maes y Gymraeg ac astudiaethau Celtaidd, dramâu a chyfieithiadau o ddramâu a barddoniaeth. Y mae hefyd wedi ysgrifennu gweithiau ar gyfer teledu, ffilm a radio, yn ogystal â chyfansoddwyr. Ef oedd Bardd Cenedlaethol Cymru 2006–2008.