Mae’r casgliad, sy’n cynnwys dros 60 o gerddi newydd, yn myfyrio ar y llinynnau sy’n cysylltu pob un ohonom – llinynnau teulu, bro, iaith a ffydd – a’r sylweddoliad bod y llinynnau hynny, er yn hanfodol, yn hynod fregus weithiau.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Disgrifiad
Deuoliaeth arall sy’n dod i’r amlwg wrth ddarllen y cerddi yw bod y llinynnau sy’n ein cynnal hefyd, o bryd i’w gilydd, yn ein carcharu.
Meddai Aled: ‘Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn closio at y cerddi newydd hyn, ac yn medru uniaethu efo’r profiadau bob dydd yn rhwydd. Gobeithio hefyd y byddant yn cysuro, yn dyrchafu ac yn cofleidio’r darllenydd.’
Dyma gyfrol onest am glymau perthyn o bob math.