Mae Llif Coch Awst yn cynnwys hyd at 70 o gerddi, nifer ohonynt yn ffrwyth digwyddiadau, comisiynau a chystadlaethau. Ac mae ‘Gwe’, awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015 ymhlith y casgliad.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Disgrifiad
Mae nifer o gerddi yn ymwneud â thir a daear Cymru, gyda dogn helaeth ohonynt wedi eu gwreiddio yn ardal Tal-y-bont yng Ngheredigion, lle bu Hywel yn byw tan yn ddiweddar. Ac yntau’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, gellir dweud bod yna linyn cyswllt rhwng maes ymchwil Hywel fel academydd a rhai llwybrau thematig yn y gyfrol fel yr hinsawdd a’r tywydd. Caiff ei ysbrydoli yn ogystal gan hanes Cymru a chwedlau.
Cerddi caeth yn bennaf sydd yn y gyfrol ond mae yma gerddi penrydd a cherddi ar fydr ac odl hefyd. Mae’n gasgliad cyfoethog ac yn pwysleisio cyfraniad Hywel fel bardd sy’n cael sawl comisiwn i ysgrifennu ar gyfer achlysuron arbennig.
Mae yma ganu cenedlaetholgar, a chasgliad o gerddi a gyfansoddodd Hywel tra’n Fardd Y Mis ar Radio Cymru ym Mehefin 2016, yn ogystal â cherddi sydd wedi eu cyfieithu a dwy gerdd sy’n ymateb yn benodol i weithiau celf. Yn y gyfrol hefyd, cyflwynir cerddi mwy personol eu naws, rhai ohonynt yn deillio o brofiad Hywel fel tad a gwr.
Mae llif, boed yn llif afon, llif meddyliau – a’r rheiny’n gallu bod yn bositif ac yn negyddol, yn ddinistriol ac yn ffynhonnell parhad – yn rhywbeth sydd yn greiddiol i’r casgliad hwn.
Meddai Hywel Griffiths: “Mae’r syniad o berthyn yn thema bwysig yn y gyfrol hon- perthyn i deulu hen a newydd ond hefyd perthyn i ardal a thirwedd a chymunedau. Ers fy nghyfrol gyntaf, Banerog, rwyf wedi priodi a dechrau magu dau o blant, ac wedi bwrw gwreiddiau yng ngogledd Ceredigion ond mae tynfa fy ngwreiddiau yn Sir Gâr yn parhau yn gryf iawn. Trwy hyn oll mae pryder am ddyfodol y perthnasau hynny, oherwydd newid hinsawdd a rhyfel yn gysgod ac yn her trwy’r cyfan.”
Ym Mlwyddyn Chwedlau Cymru, ac i gyd-fynd â chyhoeddi’r gyfrol, mae un o gerddi’r gyfrol Lli Ac Archan, wedi ei chynhyrchu ar ffurf poster. Cyfeiria’r gerdd at olion coed a ddaeth i’r amlwg ar draeth Y Borth, Ceredigion a mannau eraill ar hyd arfordir Cymru, yn dilyn stormydd mawr gaeaf 2013-14. Mae tirwedd gorllewin Cymru wedi ysbrydoli chwedlau, straeon, llen gwerin a barddoniaeth gan gynnwys Cantre’r Gwaelod ac ail gainc y Mabinogi – pan mae’r cyfarwydd yn adrodd mai dwy afon oedd yn rhannu Cymru ac Iwerddon ar y pryd – Lli ac Archan – cyn bod y môr yn codi ac yn boddi’r tir.