Mae Hel Hadau Gwawn yn gasgliad hyfryd o dros 60 o gerddi caeth a rhydd sy’n archwilio themâu amser a lle. Yn eu plith mae cerddi personol telynegol yn ogystal â dau ddilyniant arobryn a gipiodd Gadeiriau Eisteddfod Môn a Phontrydfendigaid.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Er yn gyfrol o bwyso a mesur profiadau ac atgofion, mae’r bardd hefyd yn bwrw golwg ar y gymdeithas sydd ohoni ac yn edrych ymlaen yn hyderus drwy lygaid llawn rhyfeddod ei hwyrion a’i hwyresau. Mae dylanwad Ynys Môn a’i magwraeth yno i’w deimlo’n gryf ar y casgliad hwn.
Yn wreiddiol o Frynsiencyn mae Annes wedi ymgartrefu yn Rhiwlas, Bangor ers rhai blynyddoedd. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004 gyda’i chyfrol o lên meicro Symudliw. Bu’n newyddiadurwraig, yn ymchwilydd radio a theledu, a bu’n gweithio yn y maes cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn gyfieithydd ar ei liwt ei hun. Bu’n Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Beirdd Môn rhwng 2014-2017.