Mae Cerddi’r Sêr yn cynnwys detholiad o gerddi a darnau gan y cyfranwyr yn sôn am y gerdd sydd wedi eu hysbrydoli, a pham ei bod yn golygu cymaint iddyn nhw.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Meddai Rhys Meirion: “Fel canwr ’dwi mewn sefyllfa hynod o foddhaol a breintiedig o gael dehongli geiriau rhai o’n beirdd gorau ni, ar gerddoriaeth rhai o’n cyfansoddwyr gorau ni. Pan mae’r briodas ysbrydoledig yna yn digwydd rhwng geiriau ac alaw, yn aml mae’r cyfuniad yn ein codi, boed yn berfformiwr neu yn wrandawr, i rhyw fyd arall am eiliad, ar garped hyd o emosiwn.”
Ac yn rhagair y gyfrol, eglura Rhys ei fod wrth ei fodd yn darllen barddoniaeth o bob math a bod y gynghanedd hefyd yn dod â phleser pur. A chwestiyna a oes ychydig o waed ei hen daid Thomas Richards y Wern, sef bardd Y Ci Defaid, y ‘Rhwydd gamwr hawdd ei gymell’’ yn rhedeg yn ei wythiennau.
Ychwanega Rhys: “Gobeithio hefyd y bydd y gyfrol yn denu darllenwyr newydd i farddoniaeth Gymraeg, achos mae’n falm i’r galon ac yn rhoi’r cyfle prin yna i ni fynd i’n byd bach ein hunain ar daith fer ym mreichiau geiriau rhai o feirdd gorau’r byd – ein beirdd ni.”
Mae’r gyfrol ddeniadol hon yn cynnwys lluniau o rai o‘r cyfranwyr gan y ffotograffydd Iolo Penri.