Mae'r ail gyfrol yn y gyfres yn cynnwys cyfraniadau newydd gan 30 o enwogion yn trafod eu hoff farddoniaeth.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
O gerddi hynafol i gerddi diweddar, yn hen ffefrynnau ac yn ganeuon poblogaidd, yn y gyfrol hon ceir amrywiaeth hynod o gerddi a chyfraniadau, oll wedi eu casglu gan Rhys Meirion mewn cyfrol gain. I gyd-fynd â phob ysgrif, ceir portread du a gwyn o bob cyfrannwr gan y ffotograffydd Iolo Penri. Y llyfr anrheg perffaith ar gyfer y Nadolig!
Cyfranwyr
Matthew Rhys yn trafod ei hoff gerdd, ‘Mewn Dau Gae’ gan Waldo Williams; Huw Stephens yn esbonio’r argraff a gafodd y gerdd ‘Caerdydd’ gan Emyr Lewis arno; Tara Bethan yn hel atgofion hyfryd o’i thad, Orig Williams a’i hoff gerdd yntau, ‘Y Dyrfa’ gan Cynan; Aled Hughes yn sôn am y lleoliad hudolus a ddisgrifir yn y gerdd ‘Cwmorthin’ gan Gwyn Thomas a Caryl Parry Jones yn disgrifio’r Nadolig yn ei chartref wrth iddi esbonio ei dewis hithau, sef ‘Y Geni’ gan I. D. Hooson.
Ceir ysgrifau hefyd gan Dafydd Iwan, Alys Williams, Roy Noble, Catrin Finch, Richard Elis, Aeron Pughe, Siw Hughes, Mark Lewis Jones, Trystan Ellis-Morris, Dafydd Iwan, Lisa Gwilym, Rhodri Gomer, Betsan Powys, Rhodri Owen, Beti George, Huw Edwards, Brian Hughes, Sioned Terry, Daniel Lloyd, Ffion Dafis, Ed Holden, Cefin Roberts, Lleuwen Steffan, Heledd Cynwal ac Wil Tân.