Dyma lên-gofiant un o feirdd amlycaf Cymru sy'n bwrw golwg dros ddeugain mlynedd a mwy o lenydda, o deithio at gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt, ac o roi llais i ferched ym maes barddoniaeth. Cennad yw'r drydedd gyfrol yn y gyfres boblogaidd sy'n rhoi llwyfan i'n prif lenorion drafod eu bywyd a'r dylanwadau ar eu gwaith.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 12.95
Disgrifiad
Bu’r daith ddaearol hon o edrych dros fy ysgwydd ar bererindod lenyddol yn un fendithiol: seiniaf ‘diolch o’r newydd’. Siwrne siawns yw llwybr bywyd, hwyrach, a dyna ddwyn i gof mai rhai o’m hoff eiriau wrth gychwyn cyfansoddi oedd geiriau fel diarffordd, anhygyrch, ar ddisberod, i ddifancoll, anial a’r swmpus Feiblaidd anghyfaneddle. O, fel y gallwn leisio’r gair hwnnw yn ddi-ben-draw fel adnod unwaith a rhyfeddu ato. Daw llinellau lu yn ôl ataf gyda hyn: ‘Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu’. Ond cennad i farddoniaeth oeddwn, a do, croesais sawl milltir awyr ac aur er mwyn cyrraedd rhai mannau a oedd weithiau yn llai na gweddaidd. Ond dychwelais yn gyfoethocach bob tro o wybod bod yna fondo yno’n fendith.’