Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn yw’r bedwaredd yn y gyfres sy’n cyflwyno beirdd bro’r Eisteddfod Genedlaethol.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Ceir cyfraniadau gan 17 o feirdd cyfoes Ynys Môn, gyda nifer ohonynt yn cyfrannu’n rheolaidd ar raglen Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru. Mae amrywiaeth o gerddi caeth a rhydd rhwng y cloriau, gan feirdd o sawl cenhedlaeth, gyda rhai cerddi personol, ac eraill yn gerddi cyfarch. Mae’r gyfrol yn gasgliad o gerddi sy’n myfyrio ar Ynys Môn ddoe a heddiw.
Yn ôl yr arfer cyflwynir ysgrif ragarweiniol ar draddodiad barddol y dalgylch, ac ar gyfer y gyfrol hon, caiff ei darparu gan Llion Pryderi Roberts. O Frynsiencyn y daw Llion Pryderi yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn y de ddwyrain ac yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n aelod o dîm talwrn Aberhafren.
Mae’r golygydd Cen Wiliams hefyd yn un o feirdd y gyfrol. Yn enedigol o Ynys Môn, mae Cen wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant yr ynys ers blynyddoedd lawer. Mae’n adnabyddus fel bardd a beirniad. Cipiodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997, a chyrhaeddodd ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth (Eiliadau Tragwyddol, Gwasg y Bwthyn) restr fer categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn y llynedd. Mae’n un o gyfranwyr brwd tîm Talwrn Bro Alaw, gyda llawer o’i waith wedi ei ysbrydoli gan fywyd ar yr ynys.