Newydd ei chyhoeddi y mae'r gyfrol hon sy’n edrych ar waith un o feirdd pwysicaf Cymru, y diweddar Iwan Llwyd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Gyda chyfraniadau gan feirdd a beirniaid llenyddol amlwg mae Awen Iwan yn cynnig astudiaeth fanwl o waith y bardd fu farw yn 2010. Dyma’r gyfrol gyntaf i gynnig trafodaeth gynhwysfawr o’i waith.
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yn swyddogol mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli yr wythnos nesaf. Ar fore Iau 7 Awst ceir lansiad yn y Lolfa Lên yng nghwmni’r golygydd, Twm Morys, a hefyd Myrddin ap Dafydd a Guto Dafydd, a bydd Geraint Lovgreen a’r Enw Da yno i ganu rhai o ganeuon Iwan. Cyfranwyr eraill y gyfrol yw Manon Wynn Davies, Gwyn Thomas, Iwan Bala, Osian Rhys Jones, Llion Jones ac Alan Llwyd.
“Y farn am Iwan Llwyd wedi’r trafod ydi mai y fo oedd bardd Cymraeg mwyaf ei genhedlaeth,” meddai Twm Morys yn ei gyflwyniad i’r gyfrol. “Ymhen blynyddoedd eto, pan fydd hyd yn oed Guto Dafydd wedi mynd i’w aped (a bwrw, fel sydd raid inni, y bydd darllen o hyd ar farddoniaeth Gymraeg), rwy’n credu y bydd y farn honno wedi newid, ac y gwelir mai Iwan Llwyd a ganodd orau o neb mewn unrhyw genhedlaeth am y ‘newyddfyd Cymraeg’.”