Cyhoeddir y gyfrol newydd hon o farddoniaeth Aled Lewis Evans i gyd-fynd â'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yn Wrecsam, ei dref enedigol.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
Ceir cyfle i chwerthin a chrio wrth fynd o fyd y plentyn ac o gyfnod yr arddegau trwy dreigl tymhorau bywyd – ei Basg, ei Haf a’i Nadolig.
Gwelwn amrywiaeth o gymeriadau ar wahanol groesffyrdd a’r Gymraeg yn fyw ar y stryd. Trwy’r cyfan, mae’r gyfrol yn cadw gobaith a ffydd yn fyw, mewn oes sy’n amheus o angylion.