Ym 1995, aeth Allen Ginsberg ar bererindod i lan bedd Dylan Thomas yn Nhalacharn, a mynd i lawr ar ei ddau ben glin i adrodd rhyw fantra.
Bu Dylan yn ddylanwad mawr arno ef a’i gyd-fîtfeirdd yn y 50au. Ym 1952, fe ddaeth wyneb yn wyneb â Dylan yn y San Remo Café yn Greenwich Village, Efrog Newydd. Sgrifennodd am y peth wedyn yn ei ddyddiadur.
Mae’r actor Cymraeg Ceri Murphy wedi trwytho ei hun yn Ginsberg, nes ei fod wedi cael ei lais a’i oslef i’r dim. Y llynedd roeddwn yn bresennol yn ei berfformiad gwefreiddiol o’r gerdd enwog ‘Howl’, ac mi daerwn mai Ginsberg ei hun oedd wrthi. Yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dylan yn Abertawe eleni (Sul, Mai 14), bydd Ceri yn mynd yn Ginsberg eto.
Awdur
Twm Morys
Y Prifardd Twm Morys yw Golygydd Cylchgrawn Barddas. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 ac mae'n un o leisiau mwyaf adnabyddus y diwylliant Cymraeg fel bardd ac fel cerddor.