Lleoliadau amrywiol, , Caerwys, CH7 5AL
Eleni, mae’n 500 mlynedd ers i grefft y mesurau cynganeddol (‘cerdd dafod’) gael ei chydnabod a’i safoni yn Eisteddfod Caerwys 1523. Mae’n etifeddiaeth unigryw Gymreig, sy’n cael ei harfer heddiw mor fyw ag erioed, ac yn destun balchder cenedlaethol.
Bydd Barddas yn neilltuo digwyddiadau penwythnos Gŵyl Gerallt 2023 i ddathlu’r achlysur yng Nghaerwys a’r cyffiniau, bro’r Eisteddfod wreiddiol.
Nos Wener 24 Tachwedd
Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, 8pm
Noson yng nghwmni Gwyneth Glyn, Twm Morys a Siân James.
(Tocynnau £12 oedolion, £8 i ieuenctid, oddi wrth Barddas)
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd
Bore
Neuadd hanesyddol Plas Mostyn, 10:30am
- Darlith Gerallt 2023: ‘Eisteddfod Caerwys a’r traddodiad cerdd dafod’: Dr. Peredur Lynch a Dr. Gruffudd Antur
- ‘Awenau gwerin Tegeingl’: cyflwyniadau gan Y Dr. Goronwy Wynne ac Ieuan ap Siôn
- ‘Ceinciau’r oesoedd’: datganiad telyn gan Sioned Williams, Telynores Garmon.
(Mynediad di-dâl i nifer cyfyngedig – rhaid cofrestru â Barddas ymlaen llaw)
Pnawn:
Neuadd y Dref, Caerwys, 2pm
- ‘Lleisiau Yfory’: cynnyrch gweithdai ysgolion cynradd Cymraeg y Gwenffrwd, Mornant a Thremeirchion, gyda Nia Morais, Bardd Plant Cymru
- ‘Talwrn yr Ysgolion Uwchradd’: Maes Garmon v Glan Clwyd. Meuryn: Ceri Wyn Jones (ar gyfer Radio Cymru)
- ‘Cerdd gaeth fwyaf yr iaith’: dan ofal Emyr Lewis gyda Dr Perdur Lynch, Nia Powell a’r Prifardd Dafydd John Pritchard.
- Seremoni wobrwyo Pencerdd Caerwys 2023
(Mynediad yn ddi-dâl)
Nos
Gwesty Oriel House, Llanelwy, 8pm
Holi Pencerdd Caerwys 2023
Yng nghwmni’r beirniaid, Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd
‘Ymryson 500 mlynedd’:
Meuryn: Y Prifardd Twm Morys
Islwyn: Gruffudd Antur
Talaith Aberffraw:
Myrddin ap Dafydd (Capten)
Osian Owen
Nici Beech
Rhys Iorwerth
Talaith Mathrafal:
Mererid Hopwood (C)
Peredur Ionor Lynch
Eurig Salisbury
Emyr Lewis
Talaith Dinefwr:
Tudur Dylan Jones (C)
Mari George
Hywel Griffiths
Aneirin Karadog
(Tocynnau £12 oedolion, £8 i ieuenctid, oddi wrth Barddas)
Bore Sul 26 Tachwedd
Pererindod Tegeingl am 11.00
Tro hanesyddol i Ffynnon Gwenfrewi ac Abaty Dinas Basing yng nghwmni’r cywyddwyr.
Archebu tocynnau
Mae modd prynu tocynnau ar Eventbrite.
Cystadleuaeth Cadair Caerwys
Fel rhan o ddathlu 500 mlynedd crefft Cerdd Dafod eleni, ac yn unol â thraddodiad Eisteddfodau Caerwys, mae Barddas yn cynnal cystadleuaeth arbennig, sy’n agored i’r holl feirdd. Y wobr fydd cadair arian fechan unigryw, wedi ei noddi gan gyfeillion y Pethe ardal Caerwys.
Testun: Cerdd mewn 3 neu fwy o’r mesurau caeth traddodiadol, hyd at 150 llinell: ‘Etifeddiaeth’.
Beirniaid: Y Prifeirdd Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd (gyda sêl bendith Tudur Aled!)
Dyddiad cau: 31 Hydref, 2023
Y cynigion i’w hanfon dan ffugenw (gydag enw a manylion cyswllt ar wahân), yn electronig neu drwy’r post erbyn y dyddiad cau:
Rhys Dafis, Ysgrifennydd Barddas, Cilgwyn, Llansannan. LL16 5HL
[email protected]