Nos Sadwrn 11 o Orffennaf bydd Y Gymdeithas Gerdd Dafod yn lansio’r gyfrol farddoniaeth bwysicaf, o bosib, a gyhoeddwyd erioed gan Gyhoeddiadau Barddas.
Fel rhan o Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas, ‘Gwyl Gerallt’ a gynhelir yn Galeri Caernarfon, bydd Barddas yn lansio Y Gân Olaf, cyfrol ddiwethaf o gerddi Gerallt Lloyd Owen.
“Profiad chwerw-felys i Barddas yw gweld cyhoeddi Y Gân Olaf,” yn ôl y Prifardd Dafydd John Pritchard, Cadeirydd y Gymdeithas Gerdd Dafod. “Y mae llawer yng Nghymru yn hawlio darn o Gerallt gan mor fawr ei gyfraniad mewn sawl maes, ond fe allwn ni yn Barddas ddweud â sicrwydd fod Gerallt yn un ohonom ni. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i’r Gymdeithas Gerdd Dafod, a’n braint ni yw cyhoeddi cyfrol y rhoddodd Gerallt ofal mawr yn ei llunio. Hyd y diwedd nid oedd yn fodlon cyhoeddi dim nad oedd o’n gwbl fodlon ag o.”
Yn 1991 y cyhoeddwyd cyfrol o gerddi Gerallt ddiwethaf – Cilmeri a cherddi eraill – a hynny gan Wasg Gwynedd. Er bod nifer o gerddi Y Gân Olaf wedi gweld golau dydd eisoes, ni ddewisodd Gerallt eu cywain ynghyd tan ddiwedd ei oes. Gwrthododd gynnwys rhai o’i gerddi yn ogystal.
“Roedd Dad wedi sgwennu’r cerddi i gyd mewn pad A4, a chyfarwyddiadau manwl, hyd yn oed ei ddewis o ffont,” eglura Mirain, merch hynaf Gerallt. “Mae’r gyfrol bron iawn yn union fel yr oedd o wedi bwriadu iddi fod ond mae’n go amlwg i mi ei fod yn gwybod na fyddai o yma i weld ei chyhoeddi.”
Meddai Gruffudd Antur yn y Rhagair: ‘ “Gair, wedi’r êl gwr, a drig”. Er rhoi taw ar y llais, bydd y geiriau’n dal i’n cyffroi a’n hanesmwytho, ein sobri a’n hysgogi, ac fe fyddant, fel yr hen fynyddoedd gwarchodol hwythau, yn loetran o gwmpas rhag ofn.’
Cyflwynir y gyfrol i Seán Gethin Owen, wyr Gerallt, yn Iwerddon.