Cerdd gan Geraint Roberts sy’n rhan o’r gyfrol Desg Lydan, sy’n cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn.
Af yn ôl fy hun o hyd
i’r heulwen drwy’r canghennau
a gwên oes dyrnaid o gnau.
Gwelaf rhwng y ddwy geulan
gamau iau ar gerrig mân,
a brodyr o baradwys
ar y rhyd â’u byd ar bwys;
eu hafau sy’n byllau bach
a’u hencil yn ifancach.
Ynof mae’r crwt yn cronni
a dŵr nant fy Sadwrn i.
Awdur
Geraint Roberts
Ganwyd Geraint Roberts yn Rhydgaled, ger Aberystwyth, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghwmffrwd, Caerfyrddin. Bu’n dysgu mewn sawl ysgol cyn dod yn bennaeth Ysgol y Strade, Llanelli. Ef yw un o syflaenwyr Ysgol Farddol Caerfyrddin – gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Desg Lydan yw ei gyfrol gyntaf o gerddi.