(o’r gyfres ‘Rhiannon’)
Cerdd gan Elin ap Hywel a fydd yn cael ei chyhoeddi fel rhan o gyfrol newydd y bardd, Dal i Fod.
Wrth i ymylon y ffrâm freuo, rwy’n cofio
diwrnod o wyn a melyn, awyr ac aur.
Dôl, blodau, adar. Y borfa’n bali gwyrdd.
Pwythodd rhyw law y ceffyl a minnau i’r llun.
Clywn y nodwydd yn gwanu trwydda i.
Brodiodd y gyrlen ola’ yng nghynffon y march
a’n gosod yno, mewn gwe o edau ddisglair.
Aeth canrif heibio. Clywn garnau tu cefn,
ac yna gwaeddodd.
Rhwygodd yr eiliad
fel cleddyf yn llathru trwy sidan.
Llaciodd y pwythau, cerddais
allan o’r darlun, yn syth i lygad yr haul.
Awdur
Elin ap Hywel
Mae Elin ap Hywel yn fardd, yn awdur ac yn gyfieithydd sy’n byw yn Llanilar ger Aberystwyth. Mae hi’n wreiddiol o Fae Colwyn a threuliodd gyfnodau yn byw yn Llundain, Wrecsam, Ynysoedd Aran, Caerdydd ac Aberystwyth. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Pethau Brau (Y Lolfa), yn 1982.