Iwan Rhys oedd yn ail am y Gadair yn Llandŵ gyda’r ffugenw ‘Cranc’. Yn ôl Iwan, ‘Mae’r llanw yn ddelwedd ragorol i gyfleu’r pŵer creadigol hwnnw sydd, i mi, i’w ganfod ym mhob agwedd ar fywyd. Yr un pŵer hwnnw rwyf innau’n ei ganfod yn fy mherthynas â Duw, ym myd natur, ym mherthynas pobl â’i gilydd ac yn y broses o greu celfyddydol.’
Llanw – Iwan Rhys
Cwrdd 1
Troi o’r byd mawr am ryw awr rwydd, i le
di-lol, anghyfarwydd
ei bersawr a’i ddistawrwydd,
a wnes i yn unig swydd
gan eistedd mewn cylch o seddau. Gwelaf,
wrth eu gwylio hwythau
heb adnabod wynebau,
y cylch amdanaf yn cau.
Tic toc y cloc sy’n y clyw
yn llond y lle; onid llyw
i’n cadw ar drac ydyw?
A thros y ddished wedyn, wedi i’r awr
droi’r rhod nôl i’r cychwyn,
hastu mae’r cloc i estyn
y byd yn ôl i bob un.
Ymryson 1
A mi’n pobi mewn pabell
daw’r beirdd yn dwrw o bell
i’m dihuno. Amdanaf
mae carthen o niwlen haf,
ond bîp bîp bîp sydd drwy’r pen
yn wich fel sialc ar lechen . . .
Sda ti docyn? Bar Guinness.
Hanner awr.
Na, tyd ar frys, frawd!
Wi’n dlawd o odliadur.
Ti di’r capten!
Gen i gur pen. Iawn, mhen 20 munud.
Heddi’r ionc!
. . . Mae’r cwrw’n ddrud,
mae’r gorwel yn llawn helynt,
rhy fach yw’r sach, mas o wynt
yw’r gwely aer, ac mae’r glaw
yn filain ei gyfalaw.
Ond beirdd sy’n tecstio o bell
heibio i zip y babell . . .
Traeth 1
Ar bnawn o Chwefror lawr ar lan y môr yma mae oriau,
fel maent mewn breuddwyd, dan yr awyr lwyd yn troi’n eiliadau
ac er mai estyn mae’r tywod melyn bron i’r cymylau
ni bydd yn llwyddo – bydd wastad yno ryw linell denau.
Ac mae’r pyllau trai’n llawn milwyr bychain sy’n drwm eu beichiau,
pob un breuddwydiwr yn ffosydd y dŵr yn dweud paderau;
eneidiau arfog y creigiau cafnog, ac ar eu cefnau’n cario’u harfogaeth
heb weld erwau’r traeth drwy’u hanturiaethau.
Ond clywant adlais sibrydion y trai sydd tu hwnt i’r traeth
o dywod melyn, ac maen nhw’n erfyn am gnwd yr arfaeth,
yn disgwyl arlwy o’r dyfnderoedd mwy yn ddiamheuaeth,
ac aros wnân nhw – aros i’r llanw ddarparu’r lluniaeth.
Gardd 1
O glawdd i glawdd ar lain glir mae’n gweithio
yn daer gan wrando ar gân ei rhandir;
mae’n palu, troi, paratoi’r tir eto
gan ddwyn i go’ hen ddoniau yn gywir.
Daw â’i rhaw ar hyd y rhes yn ddethe,
a throi rhych i’w lle a thorchi llawes.
Am oriau mae ei hwyres ar y ffin
heibio i’r rhesi’n dilyn y broses.
Daw draw i’w helpu i drin a dethol
gan roi i rigol holl egni’r egin,
a’r ddwy i lawr ar ddau lin sy’n uned
hardd a diniwed, fel pridd dan ewin.
Cwrdd 2
Heb lygad ar droad y rhod heddiw
mae’r meddwl yn datod,
funud wrth funud, am fod
wynebau’n fy adnabod
ac yn estyn gwên o osteg. Wedyn
fe gwyd un o’r pymtheg
er mwyn iddo dystio’n deg:
hwylia ’i damaid fel dameg . . .
. . . mae’n gloddiwr o ŵr, mae’n rhaid:
wedi iddo’u llusgo o’r llaid
mae’n rhannu mwynau’r enaid.
Yn ddistaw fe wrandawaf ar ei wers
a daw’r un don gyntaf
yn ei hôl. Er na welaf
ei thro, ei synhwyro wnaf.
Ymryson 2
O’r babell tua’r bobol
crwydraf bob un haf yn ôl,
heb ryw het nac ymbarél
na geiriau, tua’r gorwel
nes gweld o bell babell binc
drwy’r llaid, yn danbaid, dinbinc!
Daw gwylanod gŵyl uniaith
â’u miri mawr o’r môr maith
ar alwad gwlad i’w gŵyl hwy:
daw’r adar ewn drwy adwy’r
eisteddfod, ac mae’r sglodion
yn eu tewhau fesul ton.
Drwy ewyn y Bar Guinness
a’i fyrddau llawn at feirdd llys
y dof, ac yng nghwmni da’r
cwrw oer a’r criw ara’
daw i’r brig fesul swigen
y geiriau llyfn i greu llên.
Traeth 2
Mae llinell denau y môr yn tewhau wrth ddod, fesul ton,
fel criw o forwyr yn troi o’u crwydyr at eu cariadon
gan orfoleddu yn hallt wrth gamu i freichiau’r gwymon;
mae rhai’n cusanu, eraill yn brathu dros gerrig brithion.
Y traeth sy’n deffro a’r dŵr yn rhwygo rhwng y cerigos;
mae’r tonnau’n torri gan ailfywiogi â chynnwrf agos.
Wrth i’r eiliadau ymgasglu’n oriau mae’r creigiau’n aros
a mân wynebau rhwng dannedd angau’n mentro ymddangos.
I’w rythm cyson mae Môr Iwerddon eto ar gerdded
gan roi’r traeth yn wlych; mae’n dod i dir sych i dorri’r syched
gan dderbyn croeso heb oedi i guro ar ddrws agored,
a’r tir sy’n teimlo yr un hen gyffro hŷn nag amgyffred.
Gardd 2
I ardd nain daw’r ddwy’n eu hôl yn ddiwyd
i gadw eu byd yn gydwybodol
ac mae’r tywydd mwyn, gwanwynol ei wres,
yn hala ei neges galonogol.
Y pys sy’n dod i’w blodau, winwns gwych
yn bwrw o’u rhych wrth fagu breichiau,
moron sy’n chwifio’u cynffonnau yn flin
a chennin o’u cwysi’n ’mestyn coesau.
O ddarganfod heddiw’r gynfas yn hardd,
yn stiwdio’r ardd y mae’r artist ar ras
â’i baent gwyrdd, gan ddal urddas dwy’n perthyn
yn dyner o lun dan eu hawyr las.
Cwrdd 3
Yma’n awel ein cwmnïaeth, a chylch
o hedd yn gynhaliaeth,
cawn wrando’r gorwel helaeth
drwy’r awr, fel petaem ar draeth . . .
. . . murmur mawr yw’r môr i mi – sŵn neidio
syniadau yn corddi
o’r gorwel – a daw’r heli’n
don ar ôl ton ata’ i
a’i neges E’n agosáu:
curiad calon fel tonnau,
cerrynt anadlu’n tynhau,
nes imi gael fy symud i godi
o’r gadair ddi-bulpud
yn ddagrau a geiriau i gyd
a’u harllwys yn ddiferllyd.
Ymryson 3
Awn i lawr o’r Babell Lên
i odli ’nghefn yr adlen
a phob tasg sy’n ein gwasgu’n
dynnach, bois bach, a phob un
yn twrio’r cof, trio cael
rhofaid o aur i’w afael.
Codi syniad, cydsynio,
rhoi fy ngair wrth ei air o,
nes daw clec wrth glec i glyw:
sŵn dweud syniadau ydyw.
Geiriau’r tasgau sy’n tasgu
fel tonnau ar greigiau’n gry’.
Dewn nhw i’n galw ni i gyd
ymhen rhyw ugain munud
ac yng nghinio’r gynghanedd
rhaid yn frysiog glecio gwledd.
Un anadl. Troi o’r adlen
yn ôl lan i’r Babell Lên.
Traeth 3
Daw’r dŵr o’r dyfnder yn ôl ei arfer i bair trawsffurfiol
o gregyn, creigiau, gwymon a thonnau sy’n gydberthynol;
y mae’n ymdroelli fel peiriant golchi a’r gadwyn gylchol
â nerth diflino sy’n troi amdano yn ddiwydiannol.
Y mae’r penllanw fel sosban ferw o greu llifeiriog
a daw cogydd hy i’w chwipio fyny yn gawl hufennog.
Yn sydyn daw haig arian o benwaig yn fflach rubanog,
ar sgôr yr heli’n fil o gwaferi, yn ddawns gyforiog.
Ac uwch y penwaig mae gwylan ar graig a’i cheg ar agor
yn gwylio’r anterth gan dystio i werth darpariaeth y stôr.
Y trai a fu’n hel o’r dyfnder isel gyfoeth o drysor
gan ddilyn cyfraith y milenia maith lawr ar lan y môr.
Gardd 3
Aeth heibio heuldro sawl haf fel breuddwyd,
yn hael ciniawwyd ar sawl cynhaeaf,
nes daeth i ben un Gorffennaf â braw:
storïau Awst sydd â’r neges dristaf.
Yn dyner bu’r ferch yn derbyn mewn hedd
y daw y diwedd i bob blodeuyn;
dôi o hyd i wneud wedyn waith yr ardd
a’i orffen yn hardd ar ei phen ei hun.
Ond o’i mewn cnwd ei mynwes ar ddydd mwyn
a ddaw’n y gwanwyn o’i gardd yn gynnes;
daeth anrheg iddi’n neges: bydd twf ir
tra bydd y tir, a bydd eto aeres.
Cwrdd 4
I ganol ein cydaddoliad, dystion
distaw, fesul syniad
daw i’n tir ysbryd ein Tad
a’r geiriau’n fôr o gariad:
syniadau ŷnt fel sŵn dŵr yn rhwygo
drwy’r creigiau yn ddwndwr,
ymchwydd distawrwydd yn stŵr,
llanw’n canu’n llawn cynnwr’,
ac yn anterth ein perthyn
mae’r Crëwr yn llanw’r llun
a’r Duw byw ym mhob ewyn.
Mae’n rhoi llond môr o drysorau inni,
rhoi ynni i’r creigiau,
rhoi i bawb, er eu bywhau,
Ei ragluniaeth i’r glannau.
Wedi’r penllanw
Hyd erwau’r traeth wedi’r tro
mae Ei byllau’n ymbwyllo
a chantell o linell laith
yn tystio i’w artistwaith:
ai’r oriel dawel dywod
yw’r olygfa berta’n bod?
Wrth alw’r llanw, mae’r llun
o osteg yn ymestyn
gam wrth gam, heibio’r gwymon,
i ben y daith bob yn don
a’i faes sydd am ennyd fach
filenia yn felynach.
Mewn lle hallt, yma’n y llaid
a’r dŵr, mae’r creaduriaid
yn disgwyl trwy’u hwyl a’u hynt
am Ei donnau amdanynt,
trostynt, trwyddynt, nes i’r trai
hel eu siâr nôl o’i siwrnai.
Awdur
Iwan Rhys
Enillodd Iwan Rhys Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2001 a 2008. Mae'n aelod o dîm y Deheubarth yn Ymryson Barddas. Mae'n gyfieithydd wrth ei waith ac yn berfformiwr poblogaidd.