Englynion milwr er cof am Dai Rees Davies a fydd yn rhan o’r gyfrol Desg Lydan gan Geraint Roberts, sy’n cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn.
Hawen lle bu llawenydd
a dyddiau’n rhaeadrau rhydd;
lle unig yw’r dŵr llonydd.
Yr afon hon fu’n fwynhad
a’i thonnau’n un chwerthiniad;
archoll pob adlewyrchiad.
Dod ar ruthr bu’r cerddi’n drwch
yn ferw gan ddifyrrwch;
a’r Awstiau heddiw’n dristwch.
Mae’r galar yn fyddarol,
ni ddaw haul na’r odl i’r ddôl,
Dai Rees na gwên Ffostrasol.
Awdur
Geraint Roberts
Ganwyd Geraint Roberts yn Rhydgaled, ger Aberystwyth, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghwmffrwd, Caerfyrddin. Bu’n dysgu mewn sawl ysgol cyn dod yn bennaeth Ysgol y Strade, Llanelli. Ef yw un o syflaenwyr Ysgol Farddol Caerfyrddin – gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Desg Lydan yw ei gyfrol gyntaf o gerddi.