Awdur, llenor, beirniad a golygydd oedd Tony Bianchi (1952 – 2017). Daeth yn Brif Lenor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015. Bu'n olygydd Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes (2005) a chyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi dan olygyddiaeth T. James Jones yn 2018.