Myrddin ap Dafydd yn adolygu Mwy na Bardd – Bywyd a Gwaith Dylan Thomas gan Kate Crockett.
Cofiant byr ond llawn ydi hwn am fardd a gaiff lawer o sylw gan y wasg Saesneg eleni. Cofiant sy’n codi cwestiynau – ond eto’n fodlon cynnig ateb rhai ohonynt hefyd. Cofiant Cymraeg sydd unwaith eto’n dangos bod gennym olwg wahanol a gwybodaeth ehangach gan fod gennym ddau diwylliant a dwy iaith y gallwn dynnu arnynt.
Yng ngwlad y cofiannau cloriau caled sy’n cystadlu â’i gilydd i sigo’n silffoedd llyfrau, cefais bleser mawr o ddarllen arddull ddi-wastraff Kate Crockett. Mae’n newyddiadurwr wrth reddf yn ogystal â galwedigaeth. Mae’n daclus wrth gyflwyno ffeithiau, yn drylwyr wrth gyfeirio at ffynonellau a barn eraill sydd wedi ymchwilio yn yr un maes ac yn deg, a dewr ar brydiau wrth ddod i’w chasgliadau ei hun. Nid yw’n llwytho’i phenodau gyda pharagraffau hirwyntog a manionach academaidd, ond cefais fel darllenydd y teimlad cadarn fod yr holl fanylion hynny wedi’u hastudio a’u tafoli’n onest ganddi cyn iddi ddethol ei geiriau. Nid yw’n ofni anghytuno â cholofnwyr eraill wrth gyflwyno’i sylwadau ei hun, ond mae’n gwneud hynny heb ein llethu â’i dadleuon. Mae testun a phatrwm pendant i bob pennod ac mae yma flas adrodd stori ar y mynegiant ar adegau, sy’n gwneud hwn yn un o’r cofiannau mwyaf darllenadwy y gafaelais ynddynt erioed.
Wrth reswm, mae agweddau Dylan Thomas ar Gymreictod a dylanwad y Gymraeg a chymdeithas anghydffurfiol mân bentrefi glannau’r gorllewin yn cael lle blaenllaw yn y cofiant. Dyma echel pob sgwrs am y bardd ar Radio Cymru a dyma faes trafod difyr i bob Cymro Cymraeg sy’n clywed arlliw o’r gynghanedd a geiriau Cymraeg ar ei arddull, ei fesurau a goslef ei gymeriadau. Cyflwynir gwybodaeth newydd gan Kate Crockett wrth iddi gyrraedd at a defnyddio ffynonellau y tu hwnt i afael astudwyr uniaith. Heb os, mae’n profi bod angen gwybodaeth o’r Gymraeg i lawn werthfawrogi a chyflwyno gwaith Dylan. Os mai ehangu dysg yw’r rheswm pennaf dros gyfieithu, dyma un gyfrol y dylid yn bendant ei throsi i Saesneg.
Mae Dylan yn un o’r cymeriadau llenyddol hynny na ellir sôn am ei ddawn heb drafod y ddiod. Gwneir hynny yn y cofiant hwn yn ddi-lol, gan ddileu ambell chwedl, a chyda cydymdeimlad hefyd at deulu agosaf a chyfeillion y bardd.
Wrth fynd ar drywydd y Dylan go-iawn, mae’n anorfod bod y cofiannydd hwn yn dod i’w adnabod drwy’r gwaith amrywiol a gyflawnodd yn ogystal â’r hanesion a adawodd ar ei ôl. Newyddiadurwr gyda diddordeb byw mewn llenyddiaeth ydi Kate Crockett, ac mae’i gwybodaeth a’i chyflwyniadau i holl rychwant dawn sgwennu Dylan yn agoriad llygad diddorol. Os nad ydych am ddarllen dim ond un llyfr am Dylan Thomas ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, mi faswn yn argymell mai dyma’r un!
Awdur
Myrddin ap Dafydd
Y Prifardd Myrddin ap Dafydd yn un o'n beirdd amlycaf ac ef oedd Bardd Plant cyntaf Cymru. Mae'n gyhoeddwr, yn ddyn busnes ac yn ymrysonwr. Ef yw'r Archdderwydd presennol.