Y Prifardd Gruffudd Owen sy’n cloriannu cyfrol newydd Cyhoeddiadau Barddas sy’n mynd â ni ar “daith farddol drwy’r berthynas rhwng mamau a’u plant”.
Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau.
Gol. Mari George, Cyhoeddiadau Barddas, £9.95
Beth ydi diben cyhoeddi unrhyw gyfrol? Yr ateb, yn ôl Arwel ‘Roced’ Jones yn y Cyngor Llyfrau yn ddiweddar oedd, yn syml iawn, ‘i wneud elw!’. Mae ’na duedd inni gredu fod barddoniaeth Gymraeg uwchlaw y fath ystyriaethau bydol. Ond mae Roced yn llygad ei le. Heb y gallu i wneud elw does dim dyfodol i gyhoeddi barddoniaeth yn y Gymraeg ac felly rhaid i’r gweisg wneud eu gorau i gyhoeddi cyfrolau y mae pobol eisiau eu prynu. Yn hynny o beth, dw i’n siŵr fod y gyfrol gain, hardd, aml-gyfrannog hon wedi bod yn llwyddiant mawr. Marciau llawn i adran farchnata Barddas am ei chyoeddi hi jyst cyn Sul y Mamau!
Mae’r gyfrol yn mynd â ni ar daith farddol drwy’r berthynas rhwng mamau a’u plant. Mae yma gerddi am feichiogi, y geni, plentyndod, gadael y nyth, heneiddio ac mae yma hefyd nifer o farwnadau tyner gan feirdd i’w mamau. Mae yma sawl cerdd ar batrwm go debyg i’r englyn ‘Fy Mam’ gan W. Rhys Nicholas:
Gwen siriol oedd ei golud – a gweini’n
Ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd;
Bu fyw’n dda, bu fyw’n ddiwyd
A lle bu hon, mae gwell byd.
Mae hi’n werth oedi am eiliad uwch y llinell ‘a gweini’n ddi-gŵyn oedd ei gwynfyd’. ‘Yeah, right!’ meddai’r ffeminydd ynof! Er gwaethaf eu crefft, mae cerddi fel y rhain yn atgyfnerthu y ddelfryd batriarchaidd o’r fam hunan-aberthol, ddi-rwgnach, ddarostyngedig, dawel. Delfryd na ddylwn, yn fy nhyb i mo’i derbyn yn ddi-gwestiwn mwyach.
Yn hynny o beth, llawer gwell gen i yw gonestrwydd cymhleth y gerdd ‘Braint’ gan Mari George, golygydd y gyfrol. Mae hon yn gerdd am fam sydd wedi cael llond bol o’r ffernols bach!
Yn sŵn briwsion
a nodau poenus piano
camaf ar ddarn o Lego
a dyna hi.
Af drwy’r drws yn drw
a’i chwalu ar gau,
at y lôn
y breuddwydiaf amdani.
Ond yna, mae’r bardd yn troi yn ôl yn reddfol…
…am y drws
a’r swn
sy’n chwilio amanaf.
Gogoniant cyfrol fel hon yw bod yma amrywiaeth o leisiau, arddulliau a safbwyntiau, sydd yn adlewyrchu cyfnodau a gwerthoedd gwahanol.
At ei gilydd mae’r cerddi sydd yn trafod profiad penodol yn apelio yn fwy ataf na’r cerddi hynny sydd yn tynnu darlun mwy cyffredinol. Mae’r telynegion ‘Twll yn yr ardd’ gan Myrddin ap Dafydd ac ‘Esgidiau’ gan Elin Meek yn apelio’n arw at fy emosiynnau ac fe wnaeth adeiladwaith feistrolgar ‘Botwm Abi’ gan Ceri Wyn Jones, fy llorio. Mae cerdd chwaraeus ond dyner Casia Wiliam sy’n darlunio’r eiliad pan sylweddolodd ar ganol cyfarfod diflas ei bod hi’n feichiog, yn ardderchog:
Digon pethma oedd y cofnodion,
a dim ond fi sy’n gwybod dy fod yno
yn swatio rhwng y llinellau.
Mae ’na le i gwestiynu gwerth argraffu cerddi fel ‘Dacw Mam yn dwad’ ar sail bod y gair ‘Mam’ yn ymddangos ynddynt yn rhywle. Wedi dweud hynny, dw i’n siŵr y bydd sawl un yn profi gwefr wrth ail-ddarganfod hwiangerddi coll eu plentyndod. Yn hynny o beth mae nhw’n talu am eu lle (ac yn gwneud dim drwg i’r gwerthiant, debyg iawn).
Tydi pob cerdd yn y gyfrol ddim yn fy nghyffroi, a da o beth ydi hynny. Dyna natur casgliad o’r fath a byddai hwn yn hen fyd digon diflas tasa pawb yn gwirioni’r un fath! Ydi’r lluniau ‘retro’ o famau a babanod yn talu am eu lle? Wn i ddim. Ond dyma’r ffasiwn, debyg, gyda disgwyl i gyfrol fel hon apelio llawn gymaint i’r llygaid ag i unrhyw beth arall. Eto, os ydi hynny’n cynyddu gwerthiant, pwy ydw i gwestiynu?
Tydi perthynas pob mam a phlentyn ddim wastad mor syml nac mor siwgwrllyd ag yr awgrymir gan rai o’r cyfraniadau yma. Efallai y baswn i wedi hoffi gweld amrediad helaethach byth o safbwyntiau a phrofiadau. Ond ella taw fi yn bod yn eiconoclast ydi hynny! Mae hon yn sicir yn gyfrol werth chweil sydd yn cynnwys digon o gyfraniadau disglair gan feirdd sydd efo rhywbeth gwerth ei ddweud, a’r ddawn i’w ddweud o, ac onid dyna, yn y pen draw ydi diben cyhoeddi unrhyw gyfrol o gerddi?
Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau.
Gol. Mari George, Cyhoeddiadau Barddas, £9.95
Awdur
Gruffudd Owen
Yn wreiddiol o Bwllheli, Gruffudd Owen yw Prifardd Eisteddfod Caerdydd 2018. Mae'n aelod o griw Bragdy'r Beirdd yn y ddinas, ac mae'n aelod o dîm talwrn y Beirdd Y Ffoaduriaid.