Rydw i am weld amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau barddonol tros Gymru, a rheini oll yn cyfrannu at un nod, sef cadw ein traddodiad barddol yn fyw i’r cenedlaethau nesaf o Gymry. Traddodiad poblogaidd, safonol a chyfoes….”
Mae gan farddoniaeth Gymraeg bellach genhedlaeth fywiog arall sydd yn gweld gwerth canu i gynulleidfa a chyflwyno’u cerddi yn fyw, ac mi hyderwn ddweud bod mwy o feirdd yn gyffyrddus y tu ôl i’r meic heddiw nac a fu ers tro. Be’ wnawn ni i fanteisio ar hyn? A be’ nesa’ i’r beirdd fu wrthi ers blynyddoedd?
Mynd ar daith ydi un ateb; cael syniad am sioe farddol o’n pen a’n pastwn ein hunain, chwilio lleoliadau a dyddiadau, cael nawdd pe bai angen, codi pac a mynd. Bu taith ‘Crap ar Farddoni’ yn efelychu teithiau beirdd fel Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd, Twm Morys a’u cenhedlaeth nhw, ac rwy’n si?r y bydd rhagor o deithiau fel hyn yn y blynyddoedd i ddod.
Ond tybed nad oes lle i ddarpariaeth fwy concrid, cyson a pharhaol hefyd a fyddai’n gallu cynnal cynulleidfaoedd, beirdd a threfnwyr neu noddwyr?
Ac os am fynd â llenyddiaeth ‘i bob cwr o Gymru’, pa le gwell i ddechrau na chyda’r beirdd sydd â’u traed eisoes yn cosi? A pha gorff gwell i arwain y fenter na BARDDAS, Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD?
- Beth am gasglu ynghyd restr ganolog o feirdd sydd ar gael ar gyfer cynllun teithio cenedlaethol. Gellir nodi a ydynt am deithio ar draws Cymru neu o fewn rhanbarth(au) penodol o Gymru. Gallant nodi pa nosweithiau o’r wythnos y maent ar gael.
- Beth am ymchwilio a chasglu enwau lleoliadau a fyddai’n hoffi cynnal noswethiau rheolaidd led-led Cymru, ac efallai rhai all gynnig mymryn o nawdd hefyd? Byddai’n agored i ddigwyddiadau mympwyol yn ogystal – nosweithiau codi arian, er enghraifft.
- Gyda bas data canolog o’r wybodaeth yma, gallai’r beirdd a’r trefnwyr wneud cais i weinyddwr, er mwyn cael gwybod ble a phwy sydd ar gael ar gyfer dyddiad penodol.
- Gellid creu brand cryf ar gyfer holl nosweithiau’r cynllun fyddai’n mynnu safon gan y beirdd ac yn denu cynulleidfaoedd. Bu marchnata barddoniaeth Gymraeg yn wendid amlwg yn rhy hir.
- Cynnal nosweithiau gyda 3-4 bardd unigol. Nosweithiau gweddol fyr, heb fod mwy na 2-3 awr (gyda thoriad yn y canol) gan dorri’r noson yn ei blas.
Manteision:
- Does dim ffordd well o fod yn hunanfeirniadol na darllen eich cerddi i gynulleidfa a chlywed ei ffaeleddau drosoch eich hunain. Wrth deithio i amrywiaeth o leoliadau o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, bydd disgyblaeth y beirdd ar ei hennill.
- Ceir cyfle i weithio a pherfformio gyda chyfuniadau diddiwedd o wahanol feirdd. Byddai hyn hefyd yn golygu y gallai pob sioe fod yn gyfuniad unigryw, gan ddenu cynulleidfaoedd lleol yn ôl.
- Byddai rhyddid llwyr gan y beirdd i gynnal noswaith gytbwys ac amrywiol o ran cynnwys heb deimlo rheidrwydd i swcro pleidleisiau neu drio bod yn ysgafn neu ddoniol.
- Yn ariannol, byddai’n gwneud llawer mwy o synnwyr rhoi tâl tecach i 3-4 bardd berfformio ar eu telerau eu hunain na rhoi pres losin i 12-16 bardd mewn stomp. Byddai’r arian yn mynd yn bellach fel hyn hefyd.
- Byddai’n gyfle heb ei ail i genedlaethau o feirdd ifanc (a hen!) ddysgu eu crefft, perfformio eu gwaith a dod o hyd i’w llais.
- Byddai hyn yn ddi-os yn codi creadigrwydd beirdd ac yn eu hysgogi i drefnu teithiau annibynnol, ad hoc, eu hunain.
- Byddai cynllun o’r fath yn hwyluso trefnu digwyddiadau barddol, yn bwrw ymaith y maen tramgwydd mwyaf, sef mynd ati i drefnu yn y lle cyntaf.
- Byddai menter felly yn rhoi cyfeiriad ac amcan newydd i Gymdeithas Barddas.
Awdur
Osian Rhys Jones
Bardd a chynhyrchydd digidol yw Osian Rhys Jones. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017. Mae'n un o sylfaenwyr Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd.