Gofid o’r mwyaf i holl aelodau’r Gymdeithas Gerdd Dafod oedd clywed y newyddion trist am farwolaeth annhymig John Glyn Jones, trysorydd di-flino’r Gymdeithas ac un o wir gymwynaswyr y Gymraeg.
Fel bardd ac aelod diwyd o Bwyllgor Gwaith y gymdeithas ers blynyddoedd lawer, bu ei gyfraniad i ddatblygiad Barddas yn anfesuradwy.
Mae geiriau cadeirydd y gymdeithas, Y Prifardd Dafydd John Pritchard yn crynhoi maint y golled:
“Mae Barddas wedi colli cyfaill triw a gweithiwr di-flino. Y mae byd barddas wedi colli bardd talentog. Y mae Cymru wedi colli ymladdwr digymrodedd. Y mae ein diolch yn fawr a’n hiraeth yn fwy”.
Carai’r gymdeithas estyn ei chydymdeimlad dwysaf â’i blant Manon, Irfon ac Elliw a’u teuluoedd yn eu galar. Bydd bwlch enbyd ar ei ôl.