Yn rhifyn 318: Rhifyn Gwanwyn 2013 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 318 | Tymor: Rhifyn Gwanwyn 2013
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Gwanwyn 2013
Cyfweliad arbennig gyda’r artist Iwan Bala. Ef hefyd sy’n gyfrifol am y ddelwedd ar y clawr.
Ysgrif gan Jim Parc Nest am Iolo Morgannwg.
Ysgrif ddadlennol gan yr Americanwr Mike Hammond ar y tebygrwydd rhwng cynghanedd a chystrawen Araabeg a Hebraeg.
Teyrngedau i Tony Conran gan Menna Elfyn a Dyfan Roberts.
Yng ngongol yr ysgolion, ymdriniaeth â cherdd Bryan Martin Davies ‘Glas’ gan Guto Dafydd.
Yn ei golofn sefydlog, mae meuryn y Talwrn, Ceri Wyn Jones, yn trafod undebaeth farddol!
Colofnau difyr gan Ceri Wyn Jones, Dewi Prysor, Siân Northey, Gwyn Thomas, Dewi Jones ac Eurig Salisbury.
Dwy gerdd ymson newydd gan y golygydd, Twm Morys.
Cerddi newydd sbon gan Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Annes Glyn, Llyr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones, Penri Roberts a Jim Parc Nest.
Adolygiad o Ar y Tir Mawr Gareth Neigwl (gan Ieuan Wyn)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Gerallt Lloyd Owen.