Yn rhifyn 319: Rhifyn Haf 2013 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 319 | Tymor: Rhifyn Haf 2013
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Haf 2013
I gofnodi canmlwyddiant R.S.Thomas, portread di-lol o’r bardd gan ei gyfaill Gareth Neigwl a chyfieithiadau Cymraeg o dair o’i gerddi gan Ned Thomas.
Ysgrif ddadlennol ar ‘Waldo a’r Gynghanedd’ gan Mererid Hopwood.
Yn y gyfres ‘Cymru’r Beirdd’, mae Dafydd Johnston yn trafod marwolaeth giaidd y brenin Rhisiart III ar sail tystiolaeth y cywyddwyr.
Yng ngongol yr ysgolion, Myrddin ap Dafydd sy’n trafod ‘Delyth (fy merch) yn Ddeunaw Oed’ gan Dic Jones.
Yn ei golofn sefydlog, mae meuryn y Talwrn, Ceri Wyn Jones, yn trafod y berthynas rhwng y gair, y gynghanedd a’r awen.
Colofnau difyr gan Dewi Prysor, Siân Northey a Dewi Jones.
Yn ei golofn yntau mae Eurig Salisbury yn bwrw golwg yn ôl ar ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru.
Cerddi newydd sbon gan Gwyn Thomas, Nici Beech, Dafydd John Prichard, Philippa Gibson, Siôn Aled, Hannah Roberts, Wyn Hobson a Jakez Kernavenoù.
Adolygiad o Dafydd ap Gwilym: y gwr sydd yn ei gerddi Gwyn Thomas (gan Twm Morys)
Adolygiad o Taliesin o Eifion a’i Oes Robin Gwyndaf (gan Alun Jones)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Gerallt Lloyd Owen.
Yn y golofn olygyddol hefyd cewch ddarllen am broffwydoliaeth ryfeddol Mererid Hopwood.