Yn rhifyn 321: Rhifyn Gaeaf 2013 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 321 | Tymor: Rhifyn Gaeaf 2013
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Cynnwys Rhifyn Gaeaf 2013
Alun Cob a Twm Morys sy’n cofnodi 150 mlwyddiant geni Lloyd George mewn dwy ysgrif.
Ysgrif gan Eurig Salisbury am arddangosfa’r 4 Llyfr yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyfweliad gydag Aneirin Karadog am y broses o recordio ei awdl am Zombies.
Mewn ysgrif amserol, Myrddin ap Dafydd sy’n trafod mater ‘Teilyngdod’ yng nghystadleuaeth y gadair.
Teyrnged i Seamus Heaney gan Harri Pritchard Jones.
Teyrnged i Jâms Niclas gan Olaf Davies a John Gwilym Jones.
Teyrnged i Reggie Smart gan Eirwyn George.
Cerddi teyrnged i Eilir Hedd Morgan gan ei dad, Iwan Morgan, ac eraill.
Yn ei golofn sefydlog, mae Gwyn Thomas yn trafod ‘Cenedl Enwau’.
Colofnau difyr gan Emyr Lewis, Dewi Prysor, Siân Northey, Ceri Wyn Jones, Aneirin Karadog a Dewi Jones.
Englynion y Dydd o Eisteddfod Genedlaethol Dinbych
Cerddi newydd gan Gwyneth Glyn, Gruffudd Antur, Geraint Løvgreen, Euron Walters, Tomos Dafydd, Llion Jones a Dai Rees Davies.
Adolygiad o Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013 (gan Elwyn Edwards)
Adolygiad o Beirdd Bro’r Eisteddfod gol. John Glyn Jones (gan Dai Rees Davies)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Gerallt Lloyd Owen.