Yn rhifyn 326: Rhifyn Gwanwyn 2015 mae amrywiaeth o gerddi, colofnau ac adolygiadau heb sôn am gystadleuaeth yr englyn a mwy.
Rhif: 326 | Tymor: Rhifyn Gwanwyn 2015
Pris: £6
neu fel rhan o danysgrifiad i Barddas am £35 y flwyddyn.
Blas o Barddas i bawb
Dyma flas o gynnwys y rhifyn am ddim ar y we.
Erthyglau
Vernon Jones Bow Street: Twm Morys
Cynnwys Rhifyn Gwanwyn 2015
Teyrnged gan Twm Morys y golygydd i’r Athro John Rowlands.
Cerdd deyrnged gan Menna Elfyn i Olwen Dafydd.
Englynion teyrnged gan Alan Llwyd i Elliw Llwyd Owen.
Cyfweliad arbennig gyda’r bardd o Bow Street, Vernon Jones.
Newyddion arbennig am ‘Wyl Gerallt’.
Ysgrif gan Siôn Aled ar fardd olaf y Nyah Kur.
Yng ngongol yr ysgolion, ymdriniaeth gan Myrddin ap Dafydd ag ‘Ystafell Cynddylan’.
Colofn arall o drydargerddi Llion Jones.
Colofnau difyr gan Gwyn Thomas, Dewi Prysor, Aneirin Karadog a Ceri Wyn Jones.
Cerddi ac englynion newydd gan Siôn Aled, Idris Reynolds, Jim Parc Nest, Dafydd John Pritchard a Gwyn Thomas.
Adolygiad o Un Stribedyn Bach Rhys Iorwerth (gan Elis Dafydd).
Adolygiad o Beirdd Ffosydd y Gwledydd Celtaidd 1914-1918 gol. Myrddin ap Dafydd (gan Richard Glyn Roberts).
Adolygiad o Cofiant Waldo Williams 1904-1971 Alan Llwyd (gan Mererid Hopwood).
Adolygiad o Siarad Siafins Mari George (gan Meg Elis).
Adolygiad o Pethe’r Pum Plwy gol. Gruffudd Antur (gan Arwyn Davies)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Rhys Dafis.